Vous êtes sur la page 1sur 1

Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys,

Blwch Post 99, Llangynnwr, Caerfyrddin, SA31 2PF

Dyfed-Powys Police and Crime Commissioner,


PO Box 99, Llangunnor, Carmarthen, SA31 2PF

Ffôn: Tel: 01267 226440


Ffacs: Fax: 01267 226448
E-bost: Email: opcc@dyfed-powys.pnn.police.uk

14 Mawrth 2018

Ein Cyf: PCC-14032018-1

Annwyl Gydweithwyr,

Rwyf yn ysgrifennu mewn cysylltiad â’r Bil Ymosodiadau ar Weithwyr y Gwasanaethau Brys
(Troseddau) sydd ar fin symud drwy Dŷ’r Cyffredin. Amcan y fenter bwysig hon yw ceisio tanlinellu
pwysigrwydd diogelu gweithwyr y gwasanaethau brys rhag ymosodiad a chamdriniaeth, ac y mae’n
gam arwyddocaol wrth dynnu sylw at ein cydsafiad ar y mater hwn. Rwy’n gobeithio y bydd y canlynol
yn rhoi sicrwydd pellach i chi.

Y mae’n eithriadol o bwysig bod yr hyn a wnawn i ddiogelu gweithwyr ein gwasanaethau brys wedi ei
seilio ar dystiolaeth gadarn, yn angenrheidiol ac yn gymesurol. Mae fy nghydweithiwr, Comisiynydd
Heddlu a Throsedd (CHTh) Norfolk, Lorne Green yn ddiweddar wedi lledaenu dogfen yn tynnu sylw at
y niferoedd dychrynllyd o swyddogion heddlu sydd wedi dioddef ymosodiadau pan ar ddyletswydd yn
Norfolk. Nid yw hwn yn duedd ynysig. Yn 2017, cofnododd Heddlu Dyfed-Powys 187 o ymosodiadau
yn erbyn swyddogion yr heddlu, ac roedd 48 o’r rhai hynny’n ddifrifol (Adran 18 ac Adran 48). Mae
hyn yn annerbyniol. Mae swyddogion yn gwneud hynny a fedrant i drosglwyddo gwasanaethau
amhrisiadwy i’r cyhoedd, bob dydd, waeth beth yw’r amgylchiadau. Nid yw’n iawn eu bod yn derbyn
camdriniaeth wrth gyflawni eu dyletswyddau. Mae’n ddyletswydd arnom ni fel Swyddogion
Cyhoeddus i ddiogelu’r rhai hynny sy’n ymdrechu i’n cadw ni’n ddiogel ac i’n hatal rhag cael ein
niweidio.

Nid yw cynyddu’r gosb o 6 mis i 12 mis yn ataliad digonol, ac nid yw ychwaith yn cyfleu difrifoldeb y
drosedd i’r gymuned mewn modd digonol. Byddai gosod terfyn uwch ar gyfer y ddedfryd yn fwy
priodol, yn enwedig yn achos ymosodiadau difrifol.

Rwyf yn cydsefyll gyda chydweithwyr a swyddogion, ac yn wir gyda holl weithwyr golau glas a brys
wrth gefnogi’r Bil hwn, ac rwyf yn gobeithio y byddwch chithau’n ymdrechu i gefnogi’r darn pwysig
hwn o ddeddfwriaeth.

Yn gywir,

Dafydd Llywelyn
Comisiynydd Heddlu a Throseddu

CC: Stephen Crabb AS, Christopher Davies AS, Glyn Davies AS, Jonathan Edwards AS, Nia Griffith
AS, Simon Hart AS, Ben Lake AS
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg. Ni fydd gohebiaeth yn y Gymraeg neu’r Saesneg yn golygu
oediad.

We welcome correspondence in Welsh and English. Corresponding in Welsh or English will not lead to a delay.

web www.dyfedpowys-pcc.org.uk twitter DPOPCC facebook dyfedpowyspoliceandcrimecommissioner


gwefan www.dyfed-powys.pcc.police.uk trydar DPOPCC facebook dyfedpowyspoliceandcrimecommissioner

Vous aimerez peut-être aussi